Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cysylltwch â ni..

Gwasanaeth Gwaed Cymru yn galw ar 'Waed Ifanc' i ymuno â'i gymuned o achubwyr bywyd

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn galw am genhedlaeth newydd o roddwyr gwaed ledled Cymru gyda lansiad ei ymgyrch partneriaethau cymunedol 'Gwaed Ifanc/Young Blood'.

 

Nod yr ymgyrch Gwaed Ifanc ydy annog myfyrwyr a phobl ifanc i ddod yn rhoddwyr gwaed, ac ymuno â chofrestrfa bôn-gelloedd Gwasanaeth Gwaed Cymru, yn ogystal ag annog ysgolion a cholegau i chwarae rhan ganolog mewn ceisio cael y cenedlaethau iau i gymryd rhan.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn casglu tua 100,000 o roddion gwaed bob blwyddyn i ddiwallu'r galw ar draws y 19 ysbyty y mae'n eu gwasanaethu yng Nghymru.

Fodd bynnag, dim ond 3% o'r boblogaeth gymwys yng Nghymru sy'n rhoi gwaed ar hyn o bryd, ac mae llai na 15% o'r rheini o dan 30 oed.

Mae'n hanfodol bod mwy o bobl ifanc yn dechrau ar eu taith rhoi gwaed er mwyn sicrhau y gall y Gwasanaeth barhau i ddiwallu'r galw.

Mae gan bob rhodd y potensial i achub hyd at dri bywyd trwy gefnogi amrywiaeth o driniaethau, o helpu dioddefwyr damweiniau sy'n gwella a chleifion â chanser y gwaed, i gefnogi mamau a babanod newydd-anedig yn ystod genedigaeth.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru eisoes wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ar draws Cymru ers nifer o flynyddoedd, gyda llawer yn cynnal eu sesiynau rhoi gwaed eu hunain i fyfyrwyr a staff, yn hyrwyddo sesiynau cymunedol lleol, neu'n cynnal ymgyrchoedd swabio bon-gelloedd. Nod ymgyrch Gwaed Ifanc yw adeiladu ar y perthnasoedd cryf hyn drwy ofyn i ysgolion sydd â chweched dosbarth a cholegau ledled Cymru i fod yn rhan o'r bartneriaeth gymunedol newydd gyffrous hon.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru hefyd yn anelu at recriwtio mwy na 6,000 o bobl rhwng 16 a 30 oed a rhwng 16 a 45 oed o gefndiroedd du, Asiaidd, cymysg neu ethnig lleiafrifol i'w gofrestrfa bôn-gelloedd bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae angen trawsblaniad bôn-gelloedd ar oddeutu 2,000 o bobl yn y DU bob blwyddyn. Ni fydd tri o bob deg claf yn dod o hyd i rywun sy’n paru â nhw ac mae hynny'n codi i saith o bob deg ar gyfer claf o gefndir du, Asiaidd, cymysg neu ethnig lleiafrifol.

'Uchafbwynt yng nghalendr yr ysgol'

 

Mae Ysgol Stanwell yn Ne Cymru wedi cefnogi gwaith Gwasanaeth Gwaed Cymru ers 2015, gan arwain at fyfyrwyr a staff gyda'i gilydd yn achub hyd at 3,000 o fywydau a mwy na 120 o fyfyrwyr yn ymuno â'r gofrestrfa bôn-gelloedd.

Dywedodd Ruby Redford, myfyriwr chweched dosbarth yn Ysgol Stanwell: "Roedd rhoi gwaed am y tro cyntaf yn yr ysgol mor werth chweil, gan wybod y gallai 10 munud o fy mywyd roi bywyd yn ôl i rywun."

"Rwy'n gwybod bod rhoi gwaed unwaith o oedran ifanc wedi fy ysbrydoli i fod yn rhoddwr gydol oes nawr."

Dywedodd Sue Adams, Cydlynydd Chweched Dosbarth Ysgol Stanwell: “Mae’r sesiynau rhoi gwaed rydyn ni’n eu cynnal yn Stanwell yn uchafbwynt yng nghalendr yr ysgol bob amser, i fyfyrwyr a staff.

“Mae’n bwysig dros ben i ni fel ysgol ein bod ni’n annog pobl ifanc i ddod yn rhoddwyr gwaed ac achub bywydau, er mwyn gwneud gwahaniaeth i’n cymuned ac i gleifion mewn angen.”

"Mae ein sesiwn nesaf yn nodi 10 mlynedd o gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru, ac rydym yn hynod falch o sut mae ein myfyrwyr yn camu ymlaen yn barhaus i roi gwaed. Mae bod wedi achub bron i 3,000 o fywydau hyd yn hyn ar y cyd yn ysbrydoledig ac yn agoriad llygad."

Cynhaliodd Ysgol Uwchradd Prestatyn yng Ngogledd Cymru ei sesiwn rhoi gwaed gyntaf ym mis Hydref 2024, ac mae hi’n edrych ymlaen yn barod at yr un nesaf.

Dywedodd Kirsty Garside, Pennaeth Astudiaethau Cymdeithasol yn Ysgol Uwchradd Prestatyn:“Rydym wedi bod eisiau cefnogi menter sy’n annog ‘rhoi’ ers cryn amser, ac roedd cefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru drwy gynnal ein sesiwn rhoi gwaed gyntaf yn teimlo fel y ffordd berffaith o wneud hynny.

“Roedd yn galonogol gweld cynifer o’n myfyrwyr yn camu ‘mlaen i roi gwaed am y tro cyntaf ac yn ymuno â’r gofrestrfa bôn-gelloedd, yn ogystal â’r balchder yr oeddent yn ei deimlo wedyn. Rydym wrth ein bodd yn cefnogi’r ymgyrch Gwaed Ifanc ac yn annog pob ysgol uwchradd a lleoliad addysg bellach yng Nghymru i'w chefnogi.”

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser: "Pobl ifanc yw dyfodol Gwasanaeth Gwaed Cymru.

"Mae ysgolion a cholegau yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i ymgysylltu pobl ifanc â rhoi gwaed a'n cofrestrfa bôn-gelloedd." Mae rhoddwyr yn aml yn dweud wrthym y byddent wedi dechrau rhoi gwaed yn llawer cynharach pe bai eu hysgol wedi cynnal sesiynau.

"Mae Gwaed Ifanc yn ymgyrch bwysig i Wasanaeth Gwaed Cymru wrth i ni gychwyn ar ymgais i annog mwy o bobl ifanc i ddechrau eu taith rhoi gwaed ac achub bywydau."

I ddarganfod sut y gall eich ysgol neu goleg gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru, ewch i dudalen Gwaed Ifanc .