Mae teulu bachgen yn ei arddegau o Ben-y-bont ar Ogwr sydd wedi cael ei ddiagnosio’n ddiweddar gyda lewcemia, yn apelio ar frys am fwy o bobl ifanc i gofrestru fel gwirfoddolwyr bôn-gelloedd gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru, cyn Diwrnod Canser y Byd ar ddydd Mawrth, 4 Chwefror 2025.
Cafodd Aston Bevington, 16 oed, ddiagnosis o fath prin o lewcemia yn ddiweddar, ac mae'n gobeithio dod o hyd i roddwr bôn-gelloedd (sydd yn cael ei alw hefyd yn fêr esgyrn) i'w helpu i oresgyn y clefyd. Mam Aston, Siân Mansell, tad, Jason Bevington, a'r llysfam, Nathan Strong, yn arwain yr alwad i geisio cael mwy o bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed i ymuno â Chofrestr Gwasanaeth Gwaed Cymru, gyda’r posibiliad y buasent efallai yn cydweddu ag Aston.
Cafodd Aston ddiagnosis o dwymyn y chwarennau i ddechrau, ond parhaodd ei gyflwr i ddirywio. Daeth y teulu'n fwy pryderus pan ddechreuodd Aston deimlo'n flinedig, yn gyfoglyd a phan ddechreuodd rhannau eraill o’i gorff chwyddo. Datgelodd profion ychwanegol y diagnosis dinistriol.