Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Cydnabod Gwasanaeth Gwaed Cymru yn y gwobrau brechlyn cenedlaethol cyntaf

Yng ngwobrau cyntaf Vaccination Saves Lives (VSL) a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod 20fed Cynhadledd Imiwneiddio Cymru, dyfarnwyd y Wobr Tîm Mae Brechu yn Achub Bywydau i Wasanaeth Gwaed Cymru, am ei waith yn cefnogi'r rhaglen frechu genedlaethol ar gyfer Covid-19.

 Dyfarnwyd gwobr y tîm VSL i Wasanaeth Gwaed Cymru, i gydnabod ymdrechion eithriadol tîm amlddisgyblaethol o staff o bob rhan o'r sefydliad, a ddatblygodd ac a weithredodd system effeithlon yn gyflym ar gyfer dosbarthu brechlynnau COVID-19 yn genedlaethol.

The team enabled Wales to be the first country in the UK to begin distribution and one of the fastest countries in the world to vaccinate our communities.

 

Defnyddiodd y tîm eu harbenigedd rheoleiddio mewn dosbarthu cynhyrchion gwaed i ddarparu man canolog i storio’r brechlyn COVID-19 ar dymheredd isel iawn, ac fe wnaethant sefydlu’r gadwyn gyflenwi genedlaethol o fewn 12 wythnos. Darparodd GGC gyfleusterau storio ar gyfer y gwahanol fathau o frechlynnau COVID-19 (gan gynnwys pediatrig) wrth iddynt ddod ar gael, a’u galluogi i fod ar gael yn gyflym, yn unol â'r strategaeth frechu genedlaethol.

Yn benodol, estynnodd y Gwasanaeth ei drwydded 'Wholesale Dealers Authorisation', cydweithiodd â grŵp Fferyllwyr Llywodraeth Cymru, ehangodd a dilysodd gapasiti ei rhewgelloedd i -80oo C a -40oodiwygiodd System Gyfrifiadurol y Sefydliad Gwaed (BECS), a datblygodd Weithdrefnau Gweithredu Safonol newydd ar gyfer trin y brechlynnau yn ddiogel.

Dewch o hyd i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.

Fe wnaethom ddefnyddio ein cyfleusterau yng Ngogledd a De Cymru, a chreu system wydn ar draws y wlad, gan hyrwyddo cydraddoldeb iechyd ar gyfer y rhaglen frechu. Fe wnaeth cyfleuster Gogledd Cymru ein galluogi i leihau allyriadau carbon ac effaith amgylcheddol y brechlyn hefyd, drwy leihau’r milltiroedd trafnidiaeth i'w dosbarthu i gyrchfannau Gogledd Cymru.

Wrth siarad am y wobr hon, dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwaed Cymru: "Rydym yn falch dros ben o dderbyn y wobr hon, a chael ein hymdrechion yn ystod y pandemig wedi’u cydnabod fel hyn.

"Allwn i ddim bod yn fwy balch o'r Gwasanaeth a chydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad, sydd wedi parhau i fynd y filltir ychwanegol bob dydd.

"Ers mis Rhagfyr 2020, rydym wedi dosbarthu 5,328,445 dos o bedwar brechlyn gwahanol i Fyrddau Iechyd, meddygon teulu a Fferyllfeydd Cymunedol i gefnogi'r pandemig, ac rydym yn falch dros ben bod y cyflawniad hwn wedi cael ei gydnabod yn y gwobrau hyn”.

"Mae'r prosiect hwn yn dangos rôl hanfodol GGC mewn gofal iechyd y boblogaeth; yn yr achos hwn, cefnogi cynyddu imiwnedd y boblogaeth a sicrhau llai o dderbyniadau i'r ysbyty, drwy weithio ar y cyd ar draws sawl sefydliad.

Alan Prosser - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwaed Cymru

Dychwelodd y gynhadledd eleni, sy'n denu siaradwyr cenedlaethol a rhyngwladol blaenllaw o faes imiwneiddio a brechu, ar ôl seibiant o bedair blynedd yn ystod y pandemig, ac mae'n cael ei chynnal gan y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r gynhadledd yn cael ei chynnal yn ystod Wythnos Imiwneiddio Ewropac mae’n ceisio tynnu sylw at ymchwil a datblygiadau allweddol ym maes brechu, a dathlu llwyddiannau timau ac unigolion sy'n gweithio ar unrhyw agwedd o imiwneiddio yng Nghymru ar lefel genedlaethol.

Mae Wythnos Imiwneiddio Ewrop yn cael ei harwain gan Ranbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ac eleni, bydd yn canolbwyntio ar ffyrdd o wella'r nifer sy'n derbyn y brechlyn yng nghyd-destun gostyngiad byd-eang mewn cyfraddau brechu oherwydd y pandemig.

Dydy helpu'r rheini sydd â chanser y gwaed erioed wedi bod yn haws.

17-30 oed? Cofrestrwch heddiw

Mae'r Gwobrau VSL cyntaf yn gyfle i gydnabod, gwobrwyo a dathlu rhywfaint o'r gwaith caled a’r ymroddiad sydd wedi mynd i mewn i raglen(ni) imiwneiddio yng Nghymru.

Dywedodd Dr Chris Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Roedd nifer ac ansawdd y cyflwyniadau ar gyfer ein gwobrau Mae Brechu yn Achub Bywydau cyntaf erioed wedi creu argraff fawr arnom.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cynifer o dimau ac unigolion yng Nghymru wedi gweithio'n galed i hyrwyddo brechu dan yr amgylchiadau mwyaf heriol. Rydym yn cymeradwyo'r ymrwymiad, yr arweinyddiaeth a'r gwydnwch a ddangoswyd gan ein holl enillwyr gwobrau Mae Brechu yn Achub Bywydau ac yn diolch iddynt am eu gwaith anhygoel.

Chris Johnson - Epidemiolegydd Ymgynghorol

Dyfarnwyd gwobr Tîm VSL i GGC i gydnabod ei ymrwymiad a'i ymroddiad amlwg i wella'r niferoedd sy'n derbyn brechiadau, gan gael effaith/gwelliant sylweddol i'r ymgyrch frechu genedlaethol a dangos arloesedd wrth hyrwyddo/ darparu /cefnogi un neu fwy o elfennau o imiwneiddio.