Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cysylltwch â ni..

Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru yn ymuno â Fforwm Hil Cymru i gael amrywiaeth o bobl ar y panel rhoddwyr bôn-gelloedd

Mae Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru yn gweithio gyda Fforwm Hil Cymru i annog rhoddwyr bôn-gelloedd gwirfoddol o gymunedau Du, Asiaidd, Ethnigrwydd Cymysg/Lluosog a Lleiafrifoedd Ethnig i ymuno â'n brwydr yn erbyn canser y gwaed, a rhoi ail gyfle ar fywyd i gleifion ar draws y byd.

Mae gan Gofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru banel o roddwyr gwirfoddol sydd wedi cytuno i roi eu bôn-gelloedd i gleifion sydd angen trawsblaniad bôn-gelloedd.

Mae trawsblaniadau bôn-gelloedd yn cael eu defnyddio i drin canserau'r gwaed fel lewcemia, lymffoma, myeloma ac anemia aplastig difrifol, ac i ddarparu opsiwn triniaeth ar gyfer rhai anhwylderau gyda’r system imiwnedd ac anhwylderau metabolig. Gall trawsblaniad bôn-gelloedd fod yn ddewis olaf claf i geisio gwella o’u salwch.

Yn y Deyrnas Unedig, mae tua 2,000 o drawsblaniadau bôn-gelloedd yn digwydd bob blwyddyn, ac mae'r ffigwr hwn dros 50,000 ar draws y byd. Dim ond 25% o gleifion sydd angen trawsblaniad fydd yn dod o hyd i roddwr addas sydd yn cydweddu â nhw o fewn eu teulu eu hunain. Pan nad yw claf yn gallu dod o hyd i roddwr sy’n cydweddu â nhw o fewn eu teulu, gellir chwilio drwy gofrestri ar draws y byd am roddwr sydd ddim yn perthyn.

Dydy helpu'r rheini sydd â chanser y gwaed erioed wedi bod yn haws.

17-30 oed? Cofrestrwch heddiw

Fodd bynnag, nid yw tri o bob deg claf yn dod o hyd i roddwr sy’n cydweddu ar baneli rhoddwyr byd-eang sydd ddim yn perthyn, ac mae'r risg o beidio â dod o hyd i roddwr yn cynyddu i gleifion ethnigrwydd ethnig, oherwydd y cynnydd mewn amrywiaeth genetig a'r diffyg cynrychiolaeth ar gofrestri rhoddwyr byd-eang. Yn anffodus, mae hyn yn tynnu sylw at y ffaith bod angen cleifion Du, Asiaidd, Ethnigrwydd Cymysg/Lluosog a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws Cymru, y DU ac yn fyd-eang.

Mae Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru yn awyddus i fynd i'r afael â'r angen hwn, drwy ffurfio perthnasoedd cryf â chymunedau Du, Asiaidd, Ethnigrwydd Cymysg/Lluosog a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu panel o roddwyr bôn-gelloedd mwy amrywiol, sy’n ateb anghenion a gofynion cleifion o bob cefndir ethnig, a darparu mynediad cyfartal at opsiynau triniaeth i bawb sydd angen trawsblaniad bôn-gelloedd.

Rhannodd un o'n rhoddwyr, James Southerby, ychydig eiriau ar pam roedd dod yn rhoddwr bôn-gelloedd mor bwysig iddo.

"Mae'n brofiad sydd wedi bod mor unigryw i mi. Pe bai fi neu fy nheulu oedd yn wael, buaswn i'n gobeithio'n ofnadwy bod rhywun ar gael i helpu. Rydw i mor falch fy mod i wedi bod y rhywun hwnnw i deulu arall.

"I unrhyw un sy'n ystyried ymuno â'r gofrestr - buaswn i'n dweud - ewch amdani. Mae'n deimlad anghredadwy. Mae rhoi eich celloedd yn rhoi’r cyfle i chi fod yn arwr. Nid yw'n straen nac yn gofyn am lefel uchel o ymdrech gorfforol. Mae rhywun yn edrych ar eich hôl chi yr holl ffordd drwodd".

"I unrhyw un sy'n ystyried ymuno â'r gofrestr - buaswn i'n dweud - ewch amdani. Mae'n deimlad anghredadwy. Mae rhoi eich celloedd yn rhoi’r cyfle i chi fod yn arwr. Nid yw'n straen nac yn gofyn am lefel uchel o ymdrech gorfforol. Mae rhywun yn edrych ar eich hôl chi yr holl ffordd drwodd".

James Southerby

Mae'r goroeswr canser gwaed Simona Dubas yn esbonio pa mor ddiolchgar oedd hi ei bod hi'n gallu dod o hyd i roddwr a achubodd ei bywyd.

"Pan wnes i ddarganfod bod rhoddwr yn cydweddu â fi, roeddwn i mor ofnadwy o ddiolchgar, a dwi'n meddwl wedi fy llethu, gan y person anhunanol hwn. Mae hyn yn rhywbeth na allwch ei ddisgrifio mewn geiriau. Buaswn i'n dweud wrth unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn rhoddwr mêr esgyrn, bod hyn yn beth nobl dros ben i'w wneud. I lawer o bobl sydd â chanser y gwaed ac anhwylderau gwaed eraill, trawsblaniad yw eu hunig gyfle i wella o'u salwch, eu dewis olaf. Meddyliwch pa mor falch fyddech chi pe byddech chi'n achub bywyd rhywun".

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â phanel rhoddwyr bôn-gelloedd Cymru, gallwch gofrestru ar-lein, gan ddefnyddio'r ddolen isod, i naill ai fynychu sesiwn rhoi gwaed neu i ofyn am becyn swab 'boch' a fydd yn cael ei anfon yn y post.

Ymunwch â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru heddiw. Gallech fod yn ddieithryn perffaith i glaf sydd angen trawsblaniad, a rhoi ail gyfle ar fywyd iddyn nhw.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth am ymuno â'r panel neu am y gwaith rydym yn ei wneud yn y gofrestr, cysylltwch â ni yng Nghofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, a buaswn yn fwy na hapus i helpu (e-bost: wbmdr@wales.nhs.uk ffôn: 01443 622177 oriau swyddfa 9am -5pm).