Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Ymgyrch 'Gwaed, Chwys ac Iechyd Da' yn cael ei dathlu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru am effaith gadarnhaol ar y gymuned

Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyflwyno gwobr cydnabyddiaeth arbennig i Wasanaeth Gwaed Cymru heno am ei ymgyrch bartneriaeth gymunedol 'Gwaed, Chwys ac Iechyd Da'. Cafodd yr ymgyrch ei chyflwyno 18 mis yn ôl i annog mwy o gefnogwyr i roi gwaed yn eu cymunedau lleol.

Mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, mae'r ymgyrch yn annog clybiau lleol o Gynghreiriau JD Cymru a Chynghreiriau Adran Genero i ymgysylltu â'u chwaraewyr, eu cefnogwyr a'u cymunedau lleol, gan hyrwyddo pwysigrwydd rhoi gwaed a chofrestru cefnogwyr pêl-droed i achub bywydau. Cafodd yr ymgyrch, a lansiwyd yn 2020, ei chefnogi gan gyn-chwaraewr canol cae Cymru Owain Tudur Jones a blaenasgellwr Cymru, Natasha Harding.

Cyflwynwyd y wobr cyn y noson wobrwyo diwedd tymor i Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru gan ohebydd Sgorio a phêl-droed S4C, Sioned Dafydd, yn ein Pencadlys yn Nhonysguboriau, Llantrisant.  Alan Prosser, Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru  by Sgorio and S4C football reporter, Sioned Dafydd, at our Headquarters in Talbot Green, Llantrisant.

Wrth siarad am yr ymgyrch a'r wobr dywedodd Rob Dowling, Pennaeth Cynnwys ac Ymgysylltu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, "Mae Cynghreiriau JD Cymru a Chyngrheiriau Adran Genero yn hynod falch o'r Bartneriaeth Gymunedol gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru ac yn arbennig sut mae'r clybiau wedi helpu i achub bywydau drwy ymgyrch Gwaed, Chwys ac Iechyd Da. 

"Roedd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y clybiau yn eu cymunedau i recriwtio rhoddwyr a phan gynigion nhw bartneriaeth gymunedol i Gymdeithas Bêl-droed Cymru roedd yn amlwg y byddai hon yn berthynas bwerus. 

"Gyda digon o waed yn cael ei roi drwy'r clybiau i achub bywydau dros 1,700 o oedolion neu 5,000 o fabanod, mae'r ymgyrch wedi cael effaith anhygoel. Dylai Gwasanaeth Gwaed Cymru a'r clybiau yng Nghynghreiriau JD Cymru a Chyngrheiriau Adran Genero fod yn hynod falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni.

"Mae'r Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig hon yn ffordd addas o anrhydeddu Gwasanaeth Gwaed Cymru a'r clybiau yn y Bartneriaeth Gymunedol anhygoel hon sy'n wirioneddol helpu pobl ledled y wlad."  

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser, "Rydym wrth ein bodd bod ein partneriaeth gymunedol Gwaed, Chwys ac Iechyd Da wedi cael ei chydnabod gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru gyda gwobr cydnabyddiaeth arbennig. 

"Ers ei lansio ym mis Tachwedd 2020, mae'r ymgyrch wedi tyfu o nerth i nerth, ac rydym yn falch iawn o fod nawr yn gweithio gyda thimau ledled Cymru yng Nghynghreiriau JD Cymru a Chynghreiriau Adran Genero. 

"Gyda'n gilydd, rydym wedi meithrin perthynas gref â'r clybiau ar hyd a lled Cymru. Nid yw'r ymrwymiad a'r ymroddiad i'r ymgyrch gan y clybiau, y chwaraewyr, y cefnogwyr a'r cymunedau lleol hynny wedi bod yn ddim llai nag ysbrydoledig.

"Rydym wedi mwynhau cwpl o adegau o chwerthin ar hyd y ffordd gyda'n  cyhoeddiadau Ffŵl Ebrill ond, nid yw hyn wedi amharu ar bwysigrwydd yr ymgyrch sef ysbrydoli'r gymuned i ystyried ymuno â thîm achub bywydau Gwasanaeth Gwaed Cymru drwy roi gwaed. 

Dewch o hyd i sesiwn rhoi gwaed yn eich ardal chi.

"Ni allwch roi pris ar y gwahaniaeth o ran achub bywydau y mae'r rhoddion hynny wedi'u gwneud i'r bobl y maent wedi'u helpu. Mae digon i ddod o'r bartneriaeth hon o hyd, ond rydym wrth ein boddau gyda'r hyn rydym wedi gallu ei gyflawni o’r hyn sydd bellach yn ymgyrch a gydnabyddir yn rhyngwladol.  

"Ar ran pob un ohonom yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r holl glybiau sydd wedi gwneud y bartneriaeth hon yn llwyddiant ysgubol."

Mae gwaed a'i sgil-gynhyrchion yn chwarae rhan hanfodol wrth achub bywydau bob dydd. Mae rhoddion yn helpu dioddefwyr damweiniau, cleifion sy'n cael triniaethau llawfeddygol fel trawsblaniadau organau, cleifion lewcemia a chanser, menywod beichiog a babanod cynamserol na allant oroesi heb drallwysiad gwaed.  

Darganfyddwch sut y gallwch ein cefnogi.

Er mwyn helpu'r holl gleifion hyn mae angen i Wasanaeth Gwaed Cymru gasglu 350 o roddion gwaed y dydd i gyflenwi'r 20 ysbyty y maent yn eu gwasanaethu ledled Cymru gan gynnwys pedair awyren yr Ambiwlans Awyr. 

Ni fu erioed amser gwell i fod yn rhoddwr gwaed. Mae gennym sesiynau mewn cymunedau lleol ledled Cymru, felly edrychwch ar ein tudalen ymgyrchu bwrpasol ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad sy’n achub bywydau. Mae'r dudalen yn caniatáu i gefnogwyr o glybiau ledled Cymru glicio ar arwyddlun eu clwb a gweld rhestr o ganolfannau rhoi gwaed sydd ar y gweill sy'n lleol iddynt.

Beth am gefnogi eich clwb lleol mewn ffordd wahanol ac ystyried ymuno â'n hymgyrch Gwaed, Chwys ac Iechyd Da heddiw Ewch i www.wbs.wales/peldroed