Bydd y penderfyniad yn golygu y bydd Cymru, sef y wlad gyntaf i ddefnyddio eilyddion ym 1889 yn erbyn yr Alban, y cyntaf i ddileu rôl eilyddion o hyn ymlaen, gan ganiatáu i bêl-droedwyr brofi eu hangerdd a’u sgiliau ar y cae am y 90 munud cyfan, gan gynnwys y rheini sydd wedi cael eu heilyddio yn aml dros nifer o gemau.
Yn hytrach na bod eilydd yn chwarae yn eu lle, mae chwaraewyr sy’n tanberfformio mewn gemau cystadleuol, sy’n dangos diffyg cymeriad sy’n arwain at gardiau melyn neu goch, neu chwaraewyr sy’n methu â chadw stamina drwy gydol y gêm, mewn perygl o beidio â chael eu dewis ar gyfer y gêm ganlynol.
Yn y pen draw, bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i chwaraewyr aros ar y cae i chwarae’r gêm 90 munud gyfan, oni bai eu bod wedi’u hanafu neu’n methu parhau. Diolch i’r bartneriaeth gymunedol, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi cynnig eu cyfleusterau arloesol gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Genero Adran a Chynghreiriau JD Cymru i helpu’r tîm i drosglwyddo i reol y cynghreiriau newydd. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r cynghreiriau ers mis Tachwedd 2020 i hyrwyddo’r pwysigrwydd o roi gwaed a chynnyrch gwaed.
Dywedodd Oli Farslop, Cadeirydd Bwrdd y Cynghreiriau Cenedlaethol: “Mae gan Gymru hen hanes gydag eilyddion, a ddechreuodd ym 1889, pan chwaraeodd y pêl-droediwr amatur lleol Alf Pugh yn lle’r golwr Jim Trainer, oedd heb droi i fyny i’r gêm yn erbyn yr Alban. Ond mae’n bwysig i Gymdeithas Bêl-droed Cymru edrych ar ffyrdd newydd o arloesi’r gêm, a gwneud ein gemau mor gystadleuol â phosibl, felly rydym yn cael gwared â’r fainc.